Gyda dros 20 mlynedd o brofiad mewn gwasanaethu’r cyfryngau, ‘rydan ni’n falch o gael cynnig ein staff profiadol a’n adnoddau gwych er mwyn cryfhau eich cynhyrchiad a’ch gweledigaeth.
Rydym yn dylunio ac yn adeiladu gwefannau, o rai syml un dudalen i rai mwy cymhleth, i gyd wedi eu cynllunio i wneud eich busnes yn fwy effeithiol.
GwefannauO waith print i waith celf ar gyfer posteri i waith ar gyfer y sgrin fach ac ar gyfer gwefannau a graffeg gyfrifiadurol, gadewch i’n tîm cynllunio ddod a’ch syniad yn fyw.
GraffegAr gael mae’r cyfuniad o adnoddau golygu a dybio o safon uchel a staff profiadol a thalentog er mwyn cwblhau eich rhaglenni a fideos corfforaethol. Mae gennym ni hefyd gamerâu HD a chriwiau camera a sain ar gael i’w llogi.
AdnoddauMae Stiwdio 12 yn ofod ar gyfer tynnu lluniau llonydd a gwneud gwaith fideo sydd wedi’i leoli yng Nghaernarfon, Gwynedd. Gan ei fod yng nghanol prydferthwch Eryri, mae’n fan perffaith ar gyfer bob math o waith ffotograffiaeth.
StiwdioO waith corfforaethol i ymgyrchoedd hysbysebu, gadewch i’n ffotograffydd proffesiynol bortreadu’r stori a’r neges.
FfotograffiaethAm brisiau a gwybodaeth bellach, cysylltwch â ni.