Anttek Web Design & Development

Gwefannau

Portffolio

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad mewn gwasanaethu’r cyfryngau, ‘rydan ni’n falch o gael cynnig ein staff profiadol a’n adnoddau gwych er mwyn cryfhau eich cynhyrchiad a’ch gweledigaeth.

:Rydym yn dylunio ac yn adeiladu gwefannau, o rai syml un dudalen i rai mwy cymhleth, i gyd wedi eu cynllunio i wneud eich busnes yn fwy effeithiol.

The Wales Air Ambulance

Gofynnodd Ambiwlans Awyr Cymru i ni ail-gynllunio a chynnal eu gwefan.

Roedden nhw angen rhyngwyneb syml oedd yn ei gwneud yn hawdd cael gafael ar y wybodaeth eang sydd ar y safle.

Mae'r safle yn ffynhonnell hollbwysig i godi arian i'r Ambiwlans Awyr ac mae'n cynnwys siop ar-lein a chyfle i gyfrannu.

Bwyd Barca

Enghraifft ragorol o safle taflen i gwmni arlwyo bychan lleol.

Mae pedair tudalen o wybodaeth am y cwmni a ffurflen gysylltu ar y safle, yn Gymraeg a Saesneg.

Sian James

Fe gafodd Anttek y dasg o ail-greu presenoldeb ar-lein Sian James.

Mae'r safle'n cynnwys samplau o ganeuon oddi ar bob un o'i halbyms.

Gall Sian gyhoeddi ei newyddion diweddaraf yn yr adran gyhoeddi newyddion sy’n hawdd i'w defnyddio.

Y Castell

Lleolir y Castell yng nghanol tref hanesyddol Caernarfon. Gallwch fwynhau golygfeydd o gastell Caernarfon â adeiladwyd gan Edward y 1af yn 1283 tra'n cael paned ne' ginio ysgafn.